Trafod Cymunedau: Dyfodol Cymunedau’n Gyntaf
Cyflwyniad gan Cytûn ar ran eglwysi yng Nghymru

Cyflwyniad

1.      Mae Cytûn – Eglwysi Ynghyd yng Nghymru yn dwyn ynghyd 16 o’r prif enwadau Cristnogol yng Nghymru, a chanddynt ar y cyd ryw 172,000 o oedolion yn aelodau, a chyswllt ystyrlon â miloedd yn rhagor o blant, pobl ifainc ac oedolion ym mhob cymuned yng Nghymru, ynghyd â nifer o fudiadau Cristnogol eraill. (Rhestr aelodaeth lawn: www.cytun.cymru/ni.html). Mae ein haelod eglwysi yn cynnal cynulleidfaoedd ymhob cymuned yng Nghymru, gan gynnwys pob ardal Cymunedau’n Gyntaf.

2.      Mae’r rhan helaethaf o bartneriaethau Cymunedau’n Gyntaf wedi cynnwys cyfranogiad gan eglwysi lleol. Mae hyn wedi cynnwys darparu cadeiryddion partneriaethau, aelodau pwyllgor a swyddogion eraill; cartrefu swyddfeydd a phrosiectau CG; derbyn ariannu trwy CG ar gyfer prosiectau wedi eu lleoli mewn eglwysi; ac ymgynghori â’r gymuned. Mae’r ymateb hwn yn tynnu ar ymatebion manwl a gafwyd gan eglwysi sydd wedi cymryd rhan mewn saith clwstwr ar draws Cymru, ynghyd â phrofiadau mwy cyffredinol ein haelod eglwysi.

Cysyniad a threfn Cymunedau’n Gyntaf

3.      Fe fu eglwysi yn barod iawn i groesawu sefydlu Cymunedau’n Gyntaf yn 2001. Mae’r pwyslais ar gynorthwyo cymunedau unigol i deilwra eu datrysiadau eu hunain i’w problemau yn gydnaws â, ac i raddau yn deillio o, arferion Cristnogol:

a.      Mae dwy o’n haelod eglwysi (yr Eglwys yng Nghymru a’r Eglwys Gatholig Rufeinig) yn anelu at wasanaethu pob cymuned ar draws Cymru trwy’r drefn blwyfol, ac mae llawer o ffiniau wardiau o hyd yn deillio o ffiniau plwyfi hanesyddol. Mae Cymru o hyd mewn sawl ffordd yn genedl o bentrefi, ac mae’r pwyslais ar gymunedau lleol yn y rhaglen CG wreiddiol wedi ei hadeiladu ar yr etifeddiaeth ddiwylliannol hon.

b.      Fe ysbrydolwyd peth o weledigaeth gynnar CG, fe ddeallwn, gan waith Paolo Freire, a fu hefyd yn ddylanwad ar gymunedau sylfaenol De America, a fu yn ail hanner yr 20fed ganrif yn rhan hanfodol o weinidogaeth yr Eglwys Gatholig yno.

c.       Sefydlwyd Partneriaeth Penrhys, y Rhondda gan Eglwys Undebol Llanfair (a noddir gan wyth o aelod eglwysi Cytûn) rai blynyddoedd cyn sefydlu CG. Gwelwyd y patrwm hwn yn arfer da ac yn ysbrydoliaeth i nifer o bartneriaethau CG – a bu Partneriaeth Penrhys ei hun yn bartneriaeth CG yn y cyfnod 2001-12. Adroddir hanes ei sefydlu yn llyfr y Parch. Ddr John I Morgans, A Journey of a Lifetime, ac fe awgrymwn fod y bennod berthnasol yn honno o hyd gwerth ei darllen gan Lywodraeth Cymru.

d.      Llwyddodd Partneriaeth Penrhys gyflogi pobl leol yn bennaf yn y swyddi cyflogedig, a cheisio defnyddio contractwyr a chyflenwyr lleol pan fo modd, a oedd ynddo’i hun yn cynyddu gallu’r gymuned leol. Yn anffodus, ni welwyd hynny ymhob partneriaeth CG, lle roedd staff yn teithio i mewn o ardaloedd mwy llewyrchus, gan olygu fod cryn dipyn o’r ariannu wedi llifo allan o’r ardaloedd a dargedwyd.

4.      Meddai un swyddog eglwysig a fu’n rhan o bartneriaeth CG o’r cychwyn:

The involvement with Communities First was a major step forward for this community. As the first chair of Communities First, I had close experience of the working out of the process and my impression was of an excellent new way of helping communities. While it helped deliver services for the community, it had a wider objective of bringing the community together in decision making and planning. The CF committee had good local representation and the annual meetings were among the frequent successful community events. The briefing from Welsh Government was that cohesion in community was a major objective, and we were ready to be involved.

...The local councillors were part of the CF process and this made for a good working relationship. Similarly, financial accountability was sensibly maintained by the willingness of the local authority to promote and maintain the financial systems.

5.      Crynhodd un eglwys ei pherthynas hirdymor â CG fel a ganlyn:

Most of the programmes for health and employment in socially deprived areas can obviously be delivered in a different way, but the case for Communities First is that it was planned to be an integrated provision but locally based so that the community knows and can see those working for and with them. In addition, the early special element with Communities First was the local participation in the direction and decision making of programmes. We would ask that as social cohesion is as important as ever, this flagship provision has the experience and should be renewed and provided here and where ever in Wales the need exists.

6.      Yn 2012 ail-drefnwyd rhaglen CG yn ‘glysytyrau’. Mewn rhai ardaloedd, roedd rhain yn glystyrau o ardaloedd cyfagos ac fe alluogwyd gwell cydlynu ac mewn rhai achosion gwell defnydd o adnoddau rhwng partneriaethau oedd yn gorgyffwrdd. Mewn achosion eraill, roeddynt yn glystyrau gwasgaredig o grwpiau gwahanol iawn a oedd yn ymarferol yn gorfod parhau i weithio’n annibynnol ar ei gilydd. Er enghraifft, awgrymwyd ei bod yn annhebyg y gallai clwstwr o wardiau ym Mangor, Caernarfon a Thalysarn erioed fod yn effeithiol.

7.      Mae’r dystiolaeth a dderbyniwyd gennym ni yn awgrymu i golli perchnogaeth leol ar y rhaglenni mewn rhai achosion fod yn andwyol i gefnogaeth leol ac effeithiolrwydd CG a’i waith. Roedd rhai yn teimlo fod y trefniant newydd yn fiwrocrataidd a phellennig, nad oedd cymunedau bellach yn dod yn gyntaf a bod y gwaith cychwynnol effeithiol o ran adeiladu gallu a hyder o fewn cymunedau i geisio eu datrysiadau eu hunain wedi ei danseilio, gan leihau cyfranogiad ers 2012. Meddai un ardal:

I suspect that the change of emphasis to clustering and service delivery had much to do with the general descent into public service austerity.


Prosiectau Cymunedau’n Gyntaf

8.      Mae pob un o’r 52 clwstwr CG yn trefnu ei raglenni mewn ffordd wahanol, gan fod pob clwstwr o gymunedau’n wahanol. Rydym yn cefnogi’r patrwm amryliw hwn, tra’n cydnabod bod hyn yn gwneud asesiad cyffredinol yn anodd.

9.      Mae nifer o glystyrau wedi defnyddio patrwm o ‘ddiwrnodau agored’ er hybu bwyta a byw yn iach, addysg gydol-oes, ayb. Mae eglwysi yn aml yn rhan o’r rhain trwy eu cartrefu, darparu lluniaeth neu cynnal stondin. Eu profiad yw bod y diwrnodau hyn yn ddefnyddiol o ran darparu mynediad rhwydd i nifer fawr o bobl leol, ond bod yr ymwneud yn arwynebol a bod mesur deilliannau yn amhosibl.

10.  Mae rhai clystyrau wedi canolbwyntio ar ddarparu prosiectau trwy eu staff eu hunain yn lle defnyddio mudiadau cymunedol sydd eisoes yn bodoli. Meddai un eglwys:

When we consulted with Communities First, they didn’t seem to take on our views and we felt they planned what they wanted and organised projects sometimes on the days we … were running activities. We think there could have been better communication and engagement with local people and those already working in the community…. We’re pleased with the two workers who have run a series of 8 youth sessions at the church during the autumn term and will be continuing in January. They have fully consulted with us, engaged well with young people and are paying for the use of the room. However, in general we feel that they take too long to organise something that is needed and should be sustained in the community. By the time they get the trust from the community and young people, the project/programme ends or is run by different workers.

11.  Mae clystyrau eraill wedi ariannu mudiadau cymunedol sydd eisoes yn bodoli. Mae un eglwys wedi cartrefu sesiynau ar gyfer Cyngor Ar Bopeth a’r Ganolfan Waith ar ystâd sy’n bell o’u swyddfeydd ynghanol y dref. Mae hyn wedi gwella ymwneud â’r gymuned, gan eu galluogi i helpu pobl na allant deithio i’r swyddfa yn hawdd, ac roedd eu lleoli mewn eglwys sy’n hygyrch i’r gymuned yn gwneud croesi’r rhiniog yn haws. Roedd Banc Bwyd mewn eglwys mewn ardal wahanol wedi elwa o ariannu CG i leoli cynghorwyr yn y Banc Bwyd i gynnig cymorth a chefnogaeth uniongyrchol i gleientiaid oedd yn wynebu problemau gyda dyledion, diweithdra, colli budd-daliadau, cyflogau isel, ayb. Er nad yw CG yn ariannu gwasanaethau Banciau Bwyd, CAB na’r Ganolfan Waith, maen nhw’n ariannu’r gwasanaethau allanol hyn, a byddai eu colli yn ergyd drom.

12.  Mae nifer o brosiectau eraill a leolir mewn eglwysi wedi elwa o ariannu gan glwstwr CG. Fe all y symiau hyn fod yn fach (cyn lleied â £200), ond maent yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i weithgaredd cymunedol gwirfoddol, sydd ag effeithiau o ran datblygu cymunedol ymhell y tu hwnt i’r hyn y gellir ei fesur. Er enghraifft, meddai un eglwys:

The areas that they have primarily assisted in are grant funding applications to help our groups such as Parent and Toddlers and Sunday School and also with training such as First Aid and Food Hygiene.

Mae hyfforddiant Cymorth Cyntaf a Hylendid Bwyd o fudd nid yn unig i’r cynllun penodol, ond maent hefyd yn cynyddu cyflogadwyedd y gwirfoddolwyr sy’n ei dderbyn, gan roi iddynt sgiliau trosglwyddadwy wrth iddynt geisio am swyddi cyflogedig.

Meddai eglwys arall mewn ardal wahanol ei bod yn rhan o amrediad o brosiectau lleol a ariennir gan CG:

·         A project providing work experience for people trying to get back into the workplace and people with learning difficulties who may never be able to work, but can increase their self-esteem and build up confidence.

·         Help with funding courses in our Community Hall when the Community Education placements that we had came to an end. These courses were a help to people in the poorest part of the Community.

·         Support for the Food- Co-operative that enables poorer families to have an affordable source of fresh fruit and vegetables.

·         Help with publicity for our Churches Together Film Club for the elderly and socially isolated.

Mae hyn yn rhoi darlun o amrediad y gwaith mewn un gymuned sy’n ddibynnol yn gyfan neu’n rhannol ar ei ariannu trwy Cymunedau’n Gyntaf.

13.  Mae rhai prosiectau eraill gydag eglwysi lleol yn bartneriaid ynddynt wedi derbyn ariannu mwy sylweddol o lawer trwy Cymunedau’n Gyntaf, yn aml i ariannu Canolfannau Cymunedol neu Ganolfannau Teuluol. Mae hyn wedi golygu buddsoddi symiau sylweddol o arian yn yr adeiladau hyn, ac mae nifer o’r cymunedau hyn yn ofni y byddai colli’r prosiectau a ariennir ynddynt gan CG yn golygu colli’r adeilad hefyd, gan na fydd yn hyfyw. Meddai un prosiect gyda’r eglwys yn bartner allweddol ynddo:

All our staff have been issued with potential redundancy notices until we know what is happening. Everything the Welsh Government wants to do – build resilient communities through community hubs, tackling poverty, children’s zones – we already do and have done for some time now. We have the buildings, we have the staff, we just want to be able to continue to do the work that we are passionate about, making a difference to the lives of children and families. Our family centre services grew so big that we have had to extend the church building. If the funding stops, what will happen to that? We could face the situation of being handed the keys to the building and then losing our funding to deliver the services within.

Roedd nifer o eglwysi yn dweud fod y pwyslais ar ddeilliannau mesuradwy, yn enwedig ers 2012, weithiau yn llurgunio rhaglen CG mewn ffordd annymunol, gan fod rhaid mesur codi gallu cymuned dros genhedlaeth yn hytrach na thros flwyddyn ariannol. Tynnwyd sylw at tt 5-10 Open Space Audit Penrhys Neighbourhood Appraisal gan Gartrefi RhCT ym Mai 2011 [nid yw ar gael arlein], sy’n dangos ar ôl 10 mlynedd o waith CG yn yr ardal, tra bod lefelau tlodi wedi gostwng ond ychydig, roedd lefelau ymwneud â’r gymuned a bodlonrwydd yn uchel iawn. Anodd mesur y fath ganlyniadau ‘meddal’, oni bai i arolwg tebyg gael ei gynnal ymhob un o’r 52 clwstwr CG, ond credwn eu bod o’r pwys mwyaf i’r cymunedau hyn, ac felly i Gymru.

14.  Mae partneriaethau Cymunedau’n Gyntaf sy’n gweithio’n dda yn darparu nid yn unig cyllid ond hefyd arbenigedd. Meddai un eglwys:

Because they know the area well and have researched its needs, they appreciate our work and have been willing to share advice about good practice. It is partly through their support and involvement that we have been able to continue to provide:

·         Free Work experience and training opportunities

·         Volunteer opportunities/Social inclusion for vulnerable and isolated residents.

·         Help provide placements for Young Offenders and ex prisoners

·         Placement for recovering brain damaged patients, and from Social Services

Ymgynghori a pharhad o ran ariannu ac ymwneud â’r gymuned

15.  Mae’n fater o ofid i Cytûn a’i aelod eglwysi fod ymholiadau Llywodraeth Cymru yn y mater hwn yn parhau tan 15fed Ionawr 2017, gyda chyhoeddiad dim ond wedi hynny, tra bod yr ariannu presennol yn gorffen ar 31ain Mawrth 2017. Nodwn y datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet na fydd gostwng yn ariannu’r llinell berthnasol yn y gyllideb ar gyfer 2017-18, ond nodwn hefyd yr adroddiadau gan brosiectau lleol fod staff wedi cael rhybudd y gallant gael eu diswyddo. Mae hyn yn anochel yn golygu fod y staff mwyaf profiadol a chymwys eisoes yn chwilio am waith arall ac fe all y byddant yn cael eu colli i’r gymuned leol..

16.  Dywed rhai eglwysi i staff craidd CG gael gwybod y bydd ariannu ar gyfer s=eu swyddi hwy yn parthau tan 31ain Rhagfyr 2017, ond ni allwn weld cadarnhad swyddogol am hyn. Mae Llywodraeth Cymru a’r eglwysi fel ei gilydd wedi tynnu sylw at yr ansicrwydd a achosir i brosiectau a ariennir gan yr Undeb Ewropeaidd yn dilyn canlyniad y refferendwm ar aelodaeth yn yr UE, ac rydym wedi croesawu’r sicrwydd ariannu i ran fwya’r prosiectau hynny tan o leiaf 2020. Credwn y dylid cynnig gwarant tebyg i bartneriaethau CG ar gyfer 2017-18 i alluogi ymgynghoriad llawnach am y newidiadau arfaethedig, a chyflwyno’r newidiadau hynny yn raddol.

17.  Fel y dengys yr enghreifftiau yn gynharach yn y cyflwyniad hwn, byddai trosglwyddo ariannu Cymunedau’n Gyntaf yn gyfan i raglenni eraill yn golygu cau llu o wasanaethau a chanolfannau cymunedol yng nghymunedau mwyaf difreintiedig Cymru. Ni allwn gredu mai dyma fwriad Llywodraeth Cymru, ac yn sicr ni fyddai o fudd i’r cymunedau hyn.

18.  Mae hefyd yn ddymunol gweld newidiadau graddol yn hytrach nag fel arall oherwydd natur hir-dymor ymwneud â chymuned. Mae ymddiriedaeth mewn sefydliad yn tyfu fesul cenhedlaeth yn hytrach na fesul blwyddyn. Gwyddom o’n gwaith ein hunain y gall gymryd 20 mlynedd i eglwys a blennir mewn cymuned wreiddio’n ddwfn a magu ymddiriedaeth rhyngddi a’r bobl leol. Mae gan rhan fwyaf ein haelod eglwysi ni wreiddiau sy’n dyddio’n ôl dros ganrifoedd. Ond fe ellir colli ymddiriedaeth dros nos bron os yw cymuned yn teimlo iddi gael ei bradychu gan sefydliad o’r fath. Fe fydd partneriaid Cymunedau’n Gyntaf, gyda chysylltiadau cymunedol nad ydynt fel arfer yn hŷn na 15 mlynedd, yn colli ymddiriedaeth yn fuan iawn os oes raid iddynt gau gwasanaethau heb ymgynghori’n lleol yn Ebrill 2017, ac fe fydd yn anodd iawn i Lywodraeth Cymru a sefydliadau eraill ail-adeiladu ymddiriedaeth gyda’r cymunedau hyn am flynyddoedd i ddod. Rydym yn pwyso am ystyried yn ofalus dros ben yr agwedd hon ar unrhyw newid .

Teuluoedd, plant a mynd i’r afael â profiadau niweidiol mewn plentyndod

19.  Rydym yn ymwybodol fod Ysgrifennydd y Cabinet am weld canolbwyntio mwy o adnoddau ar drechu tlodi ymhlith teuluoedd a phlant. Mae gennym gydymdeimlad â’r nod hwn, ac mae nifer o raglenni eglwysig o fewn a thu hwnt i ardaloedd Cymunedau’n Gyntaf eisoes yn cyfrannu at yr amcanion hyn. Mae rhaglen Faith in Families Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu yn yr Eglwys yng Nghymru yn enghraifft drawiadol, ac fe ddaw 79% o’i harian gan CG. Dywed eglwys arall mewn ardal wahanol:

A small number of church members are developing a Parents and Toddlers group, using seed money from the church and funding from Communities First. The group has received all kinds of toys and activity materials from friends and, for example, parents have had tutoring in using

sewing machines while crèche workers have helped with the children. There were several lovely trips this summer and some in-house activities, such as a bouncy castle, which the toddlers loved. These were all funded by Communities First.

Mae gallu rhaglenni o’r fath i ymdrin â thlodi plant a phrofiadau niweidiol mewn plentyndod yn dibynnu i raddau ar hyd a dyfnder yr ymwneud sydd wedi’i feithrin â’r gymuned (gweler para 18), a byddem yn pwyso i unrhyw newid i batrwm CG ganiatáu ariannu parhaus i raglenni o’r fath sydd wedi llwyddo dros y blynyddoedd.

20.  Rydym yn ymwybodol hefyd o adroddiad Iechyd Cyhoeddus Cymru am brofiadau niweidiol mewn plentyndod, a gwyddom o brofiadau ein haelodau am y cysylltiadau rhwng profiadau o’r fath a iechyd sâl a hefyd (fel y mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd De Cymru wedi’i nodi) ar ymwneud â throseddu. Cytunwn fod angen mynd i’r afael â materion o’r fath a bod angen ariannu cyhoeddus ar gyfer hyn. Ond byddem yn rhybuddio yn erbyn defnyddio’r ymchwil hwn i awgrymu fod profiadau niweidiol mewn plentyndod yn achosi tlodi – honiad nas gwneir yn yr adroddiad. Mae yr un mor debygol mai tlodi mewn llawer achos sy’n achosi’r profiadau niweidiol mewn plentyndod, ac felly byddai canolbwyntio ar drechu’r rhain yn golygu canolbwyntio ar symptomau yn hytrach nag ar achosion.

21.  Fel y nodwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet wrth ateb cwestiynau yn y Senedd ar 14 Rhagfyr 2016, mae effeithiau ystyfnig iawn tlodi yn anodd iawn i’w symud i le gwahanol. Wrth fod yr ariannu presennol ar CG yn cael ei adolygu a’i ail-lunio, byddem yn pwyso am roi blaenoriaeth ar sicrhau parhad y prosiectau – mawr a bach – hynny sydd wedi profi eu gwerth i gymunedau lleol. Bydd hyn yn gofyn am werthuso ac ymwneud sylweddol â phob un o’r 52 clwstwr, a bydd felly yn cymryd peth amser.

22.  Byddem felly yn pwyso am barhau ag ariannu ar gyfer 2017-18 tra bod yr ymchwil dwys hwn yn cael ei wneud, gyda golwg ar gyflwyno newidiadau yn raddol o Ebrill 2018 trwy ddulliau na fydd yn tanseilio yr hyn a gyflawnwyd eisoes, ond yn hytrach all ledu arfer da i’r ardaloedd hynny y tu allan i gynllun presennol CG. Ys dywed un eglwys: Part of any CF exit strategy should include a detailed plan for the support of the community provision that has built around the presence of Communities First in the area itself.

23.  Byddem yn croesawu pob cyfle i drafod y materion hyn ymhellach gydag Ysgrifennydd y Cabinet a Llywodraeth Cymru.

24.  Gellir cyhoeddi’r ymateb hwn yn gyflawn.

22 Rhagfyr 2016.

Parch./Revd Gethin Rhys     Swyddog Polisi / Policy Officer          
Cytûn: Eglwysi Ynghyd yng Nghymru | Cytûn: Churches Together in Wales   
58 Heol Richmond, Caerdydd CF24 3AT | 58 Richmond Road, Cardiff CF24 3AT      
+44 (0)29 2046 4378 Mudol/Mobile: +44 (0)7889 858062          
Mae Cytûn yn gwmni cofrestredig yng Nghymru a Lloegr | Rhif: 05853982 | Enw cofrestredig: “Cytûn: Eglwysi Ynghyd yng Nghymru/Churches Together in Wales Limited” | Mae Cytûn yn elusen gofrestredig | Rhif: 1117071 |  
Cytûn is a registered company in England and Wales | Number: 05853982 | Registered name: “Cytûn: Eglwysi Ynghyd yng Nghymru/Churches Together in Wales Limited” | Cytûn is a registered charity | Number: 1117071